Mae ymchwiliad yn cael ei lansio heddiw i ystyried a oes digon yn cael ei wneud i annog plant i gadw’n heini.

Bydd un o bwyllgorau’r Cynulliad yn asesu pa mor effeithiol yw’r ymdrechion hynny ac a oes unrhyw rwystrau yn atal plant a phobol ifanc rhag gwneud gweithgarwch corfforol.

Mae’r lansiad yn cael ei gynnal ar faes prifwyl Môn gyda gweithdy ar gyfer pobol ifanc rhwng 11 ac 16 oed.

‘Lleihau pwysau’r GIG’

“Mae plant a phobol ifanc sy’n gwneud gweithgarwch corfforol yn fwy tebygol o gadw’n heini ac yn iach wrth iddynt dyfu, a bydd hynny yn ei dro yn lleihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd (GIG) yng Nghymru yn y dyfodol,”  meddai Dai Lloyd, Aelod Cynulliad Plaid Cymru sydd hefyd yn feddyg teulu.

Ag yntau’n gadeirydd ar Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, dywedodd fod “Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif eisoes mai’r gost flynyddol i Gymru sy’n deillio o anweithgarwch corfforol yw £650 miliwn.”

Bwrid yr ymchwiliad yw asesu cynlluniau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo gweithgarwch corfforol, ystyried beth yw’r rhwystrau ac a yw polisïau’r llywodraeth yn gwneud gwahaniaeth i bobol ifanc sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Gwahaniaethau merched a bechgyn?

Bydd yr ymchwiliad hefyd yn trafod a yw merched yn cael llai o gyfleoedd na bechgyn ac a oes agweddau gwahanol yn y cyd-destun hwn.

Maen nhw’n annog pobol i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus sydd ar agor tan 15 Medi 2017.

“Mae mwy na chwarter plant oed derbyn yng Nghymru naill ai dros eu pwysau neu’n ordew,” meddai Dai Lloyd.

“Gwyddom hefyd fod y plant hyn yn llawer mwy tebygol o fod yn ordew yng Nghymru, ar gyfartaledd, os ydynt yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd uwch,” ychwanegodd.

“Wrth i Lywodraeth Cymru ddechrau datblygu strategaeth gordewdra cenedlaethol, bydd ein hymchwiliad yn llywio ein cyfraniad ati wrth inni weithio i sicrhau bod ein pobol ifanc yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.”