Llun: PA
Fe fydd deng mil o lefydd deintydd newydd yn cael eu creu fel rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn rhai o “ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.”

Dyna gyhoeddiad yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wrth i Lywodraeth Cymru fuddsoddi £1.3 miliwn i wella gwasanaethau deintyddol y wlad.

O’r arian hynny, bydd £450,000 yn cael ei neilltuo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a £300,000 yn mynd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae hefyd arian yn cael ei ymrwymo ar gyfer gwella gwasanaethau deintyddol arbenigol i blant gan sicrhau mynediad yn nes at eu cartrefi.

Ond mae’r Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig wedi beirniadu’r swm sydd wedi cael ei fuddsoddi.

3,000 o gleifion ychwanegol

Drwy’r cynllun hwn, mae disgwyl y bydd hyd at 3,000 o gleifion ychwanegol bob blwyddyn yn medru cael mynediad at wasanaethau deintyddol arbenigol.

Fe fydd hyn yn lleihau amseroedd aros ysbytai ac, yn ôl Vaughan Gething, “mae gwella gwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd a mynediad cleifion atyn nhw yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.”

“Bydd y buddsoddiad mewn deintyddiaeth paediatric arbenigol yn helpu i wella triniaeth a gofal  deintyddol y GIG i’r plant hynny sy’n cael eu heffeithio gan glefydau deintyddol,” ychwanegodd.

‘Cydbwyso llyfrau’

Er bod y Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig yn croesawu’r buddsoddiad, maen nhw’n nodi bod £6.6 miliwn wedi’i gymryd o’r gyllideb ddeintyddol yng Nghymru yn 2016 o ganlyniad i “ddeintyddion ddim yn cyrraedd y targed.”

“Blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae arian sydd wedi’i neilltuo i ddeintyddiaeth y GIG wedi’i ddefnyddio i gydbwyso llyfrau Llywodraeth Cymru,” meddai Katrina Clarke, Cadeirydd Pwyllgor Ymarfer Deintyddol Cyffredin Cymru.

“Nid yw cyfrifyddu creadigol yn gyfystyr â buddsoddiad newydd,” meddai.

“Y peth gorau gall Llywodraeth Cymru ei wneud yw ymrwymo i sicrhau bod yr holl arian sydd wedi’i neilltuo i ddeintyddiaeth yn cael ei wario ar wella iechyd y geg plant ac oedolion Cymru.”