Carwyn Jones yn Sioe Fawr Llanelwedd (Llun: Llywodraeth Cymru)
Gadael yr Undeb Ewropeaidd yw’r “her fwyaf i’r diwydiant amaeth ers yr Ail Ryfel Byd” yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Daeth ei sylwadau yn ystod agoriad swyddogol y Sioe Fawr yn Llanelwedd bore ddydd Llun (24 Gorffennaf).

Wrth annerch y dorf yn y sioe amaethyddol, dywedodd Carwyn Jones bod Brexit yn fwy o her i’r diwydiant amaeth na “chlwy’r traed a’r genau, TB a chryfder y bunt.”

Mae’r sylwadau yn cyd-daro a rhybudd Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, y gallai Bil Brexit Llywodraeth San Steffan fynd â diwydiant bwyd a ffermio Cymru yn ôl “ddegawdau.”


Carwyn Jones yn agoriad swyddogol Sioe Fawr Llanelwedd (Llun: Llywodraeth Cymru)
“Egwyddor ddemocrataidd sylfaenol”

Yn ystod cyfweliad â’r BBC mynnodd Carwyn Jones nad yw amaethyddiaeth yn bodoli ar “lefel y Deyrnas Unedig” a phwysleisiodd pwysigrwydd cydsyniad ffermwyr Cymru.

“Mewn gwirionedd, dydy amaethyddiaeth ddim yn bodoli ar lefel y Deyrnas Unedig,” meddai Carwyn Jones wrth BBC Radio 4.

“Ni allwn dderbyn gweinidog [Prydeinig] o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn trafod ar ran y diwydiant amaeth yng Nghymru heb gydsyniad ffermwyr Cymru a’u Llywodraeth. Egwyddor ddemocrataidd sylfaenol yw hyn.”