Teleri Fielden (Llun: Golwg360)
Fe fydd Teleri Fielden, 26 oed, o Feifod yn cydio yn awenau fferm fynyddig 600 erw ger Nant Gwynant yn Eryri ym mis Medi eleni.

Hi yw’r pumed ysgolor i ennill ysgoloriaeth Llyndy Isaf sy’n cael ei gynnig ar y cyd rhwng mudiad y Ffermwyr Ifanc a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers 2011.

“Mae’n siawns arbennig i fi gael cymryd y cam nesaf a ffermio fy hun,” meddai Teleri Fielden wrth golwg360 gan esbonio nad yw’n byw ar fferm a bod cyfleoedd i fynd i mewn i’r diwydiant amaeth yn brin.

‘Siawns ddiddorol’

Mae Llyndy Isaf wedi’i leoli ger Llyn Dinas yn Nant Gwynant ac mae’n fferm o ryw 100 o ddefaid,  gwartheg duon Cymreig ac mae’n rhan hefyd o’r cynllun cadwraeth Glastir.

Dywedodd Teleri Fielden fod ganddi ddiddordeb penodol mewn ffermio defaid a rheolaeth glaswellt a’i bod yn awyddus “i ddysgu a datblygu sgiliau newydd.”

Ar hyn o bryd mae’r ferch yn gweithio gydag Undeb Amaethwyr Cymru ac wedi bod yn gweithio am ddwy flynedd ar fferm yn Ffrainc.

“Mae’n mynd i fod yn her o ran y dirwedd,” meddai wrth gymharu gwastadeddau ei hardal â mynyddoedd yr Eryri, ond dywedodd fod ganddi “siawns ddiddorol i weld beth sy’n digwydd yn sgil Brexit.”

Mi fydd hi’n dechrau ar y gwaith ym mis Medi ac yn parhau ar y fferm am flwyddyn, gan gydio yn yr awenau oddi wrth James Edwards, yr ysgolor presennol.