Gwyn Howells, Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru (Llun: Golwg360)
Mae Prif Weithredwr y corff sy’n hyrwyddo cig o Gymru wedi rhybuddio nad yw’r trafodaethau am gytundebau masnach â gwledydd eraill yn digwydd “ar chwarae bach.”

Yn ôl Gwyn Howells mae’r dyfodol o ran masnachu cig o Gymru wedi 2019 yn “ansicr i’r diwydiant.”

“Mae’n dibynnu a allwn ni allforio i’r Undeb Ewropeaidd ar ôl gadael Ewrop gan fod 95% o’n holl allforion ni yn mynd i’r Undeb,” meddai wrth golwg360.

“Gan eu bod nhw ar stepen ein drws,  gyda 500 miliwn yn yr undeb… mae’n naturiol ac yn hawdd i fasnachu gydag Ewrop,” ychwanegodd.

Trafod ag UDA ‘ers 2008’

Er hyn dywedodd fod angen “datblygu cysylltiadau pellach” gan sôn fod y 5% arall yn mynd i wledydd gan gynnwys Canada a’r Dwyrain Canol.

“Ond y broblem yw dyw’r masnachu ddim yn digwydd yn hawdd iawn – mae’n rhaid cael cytundebau rhwng gwledydd ac mae hynny’n cymryd amser eithaf dirfawr,” meddai.

Dywedodd fod Hybu Cig Cymru wedi bod mewn trafodaethau â’r Unol Daleithiau ers bron i ddegawd yn 2008.

“Ni’n dal i drafod nawr, ni bron iawn â chyrraedd, ond efallai fydd hi’n flwyddyn neu ddwy arall felly nid ar chwarae bach a dim dros nos mae’r cytundebau newydd gyda’r gwledydd yma’n dod yn anffodus.”

Brexit

Wrth i Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths ynghyd ag Ysgrifennydd Llywodraeth Prydain, Michael Gove, ymweld â’r sioe heddiw, dywedodd Gwyn Howells mai ei neges ef yw bod angen “cyfnod o drosglwyddo a thrawsnewid” o ran Brexit.

“Mae’n rhaid datblygu a chael yr hawl  i fasnachu yn bellach yn y byd, ac wrth gwrs cael yr un hawl i fasnachu yn ddilyffethair gyda’r Undeb Ewropeaidd fel y mae e nawr.”