Michael Gove (Llun: PA)
Ychydig ddyddiau cyn y bydd yn ymweld â’r Sioe Fawr yn Llanelwedd, mae’r Ysgrifennydd Amgylchedd yng nghabinet Theresa May wedi dweud y bydd Brexit yn helpu’r sector ffermio yng ngwledydd Prydain.

Yn ôl Michael Gove, bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud hi’n haws i farchnata bwyd fel ‘cynnyrch Prydeinig’ a bod angen ei gwneud hi’n glir o ble mae bwyd yn dod.

Mae disgwyl i’r Llywodraeth gael mwy o bwerau dros labeli bwyd wedi Brexit, gan mai’r Undeb Ewropeaidd sy’n pennu’r safonau presennol.

Roedd Michael Gove, oedd yn flaengar yn yr ymgyrch dros Adael, yn siarad wrth gael ei holi yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Bydd gennym y cyfle y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd i sicrhau bod bwyd Prydeinig, fel rydym newydd drafod, yn cael ei frandio fel y [cynnyrch] gorau o Brydain,” meddai.

Mae bwydydd Cymreig fel Halen Môn a Ham Caerfyrddin wedi cael ei ddiogelu dan gyfraith Ewropeaidd, ac yn ôl yr Ysgrifennydd, mae’n “gwbl ymrwymedig” i sicrhau bod y statws daearyddol hwnnw yn parhau.