Carafanau y Sioe Fawr (Llun: o wefan wersyllfa Penmaenau, Llanelwedd)
Mae’r heddlu wedi rhybuddio y gallai carafanau nad sydd mewn cyflwr digon da gael eu hatal rhag mynd i mewn i faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd yr wythnos nesaf.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn annog pobol i wneud yn siŵr fod eu carafanau’n ddiogel ac yn addas i deithio cyn dechrau’r daith i Lanelwedd lle mae’r sioe yn dechrau ddydd Llun (Gorffennaf 24).

“Rydyn ni’n gweld nifer fawr o ymwelwyr yn aros mewn carafanau am holl wythnos y sioe. Mae rhai yn dod â charafanau rwy’n synnu eu bod yn gallu gwneud y siwrnai yno hyd yn oed,” meddai’r Prif Arolygydd Matt Scarse.

‘Parch at eiddo’

Dywedodd y dylai pobol baratoi a gwirio bod eu carafanau’n ddiogel yn ystod y dyddiau cyn y sioe, gan ychwanegu y bydd yr heddlu yn cynnal archwiliadau o gwmpas y safle.

“Gallai cyflwr y garafán achosi gwrthdrawiad traffig ar y ffordd neu ryw fath o ddigwyddiad ar y safle carafanio,” rhybuddiodd Matt Scarse.

“Ynghyd â sicrhau bod carafanau yn addas i’r ffordd, mae angen parch ac ystyriaeth at eiddo pobol, sy’n cynnwys eu carafanau, unwaith maen nhw ar safle’r sioe,” ychwanegodd.

“Rydym am i bawb fwynhau’r Sioe Frenhinol yn ddiogel a heddychlon ac os bydd materion yn codi fe fyddwn yn cymryd y camau heddlu priodol,” meddai wedyn.