Gwobr y Faner Werdd (Llun: Cadwch Gymru'n Daclus)
Mae 183 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru wedi ennill Gwobr y Faner Werdd, sef marc rhyngwladol sy’n dangos bod parc neu fan gwyrdd yn safle o ansawdd.

Mae’r gwobrau’n cael eu cyflwyno gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, ac mae enillwyr yn cael eu dewis gan grŵp o arbenigwyr mannau gwyrdd.

Ymysg y mannau sydd wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd am y tro cyntaf erioed mae Mynwent Aberfan, Prifysgol Abertawe a’r Kymin ym Mhenarth.

Caerdydd yw enillydd mwyaf eleni gyda Gwarchodfa Gwlypdiroedd Bae Caerdydd ymysg 24 o enillwyr y brifddinas.

Llongyfarchiadau

“Mae’n bleser gan Cadwch Gymru’n Daclus gynnal y cynllun yng Nghymru am ein bod yn gwybod y gall cael amgylchedd o ansawdd da gael effaith fawr ar ein cymunedau, ein hiechyd a’n lles a’r economi,” meddai Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus, Lucy Prisk.

“Hoffwn longyfarch ein henillwyr a diolch i bawb sydd wedi gweithio’n ddiflino i gynnal y safonau y mae Gwobr y Faner Werdd yn galw amdanynt. Rwyf yn annog pawb i fynd allan i’r awyr agored ac archwilio’r ystod amrywiol o gyfleusterau rhagorol sydd ar drothwy ein drws.”