Mae golwg360 yn deall mai sylwadau rhywiol sydd y tu cefn i’r gŵyn  a arweiniodd at wahardd y cyflwynydd Tommo oddi ar ei raglen ar Radio Cymru.

Mae o leia’ dair ffynhonnell wahanol yn dweud ei fod wedi gwneud sylwadau a oedd yn cynnwys cyfeiriad at dreisio, wrth iddo gyflwyno Gŵyl Nôl a Mla’n yn Llangrannog y penwythnos cyn diwetha’.

Mae BBC Cymru wedi gwrthod cadarnhau natur y gŵyn ond maen nhw wedi cadarnhau mai Elen Pencwm fydd wrth y llyw ar Radio Cymru yn ystod prynhawniau’r wythnos hon.

Mae Tommo – Andrew Thomas o Aberteifi – wedi ei wahardd tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Ymchwilio

Roedd y ffynonellau’n cynnwys un darllenydd a gysylltodd gyda golwg360 i sôn am y sylwadau.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru – “Rydym wedi derbyn cŵyn ac yn ymchwilio i’r mater. Tra bo’r ymchwiliad yn parhau, ni fydd Tommo yn darlledu ar BBC Radio Cymru.”

Mae Tommo fel arfer yn cyflwyno ar Radio Cymru rhwng 2 a 5 y prynhawn rhwng dydd Llun a dydd Iau bob wythnos – ond mae amserlen yr wythnos hon wedi’i newid i ddangos mai Elen Pencwm fydd yn cyflwyno’i raglen am y tro.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Gŵyl Nôl a Mla’n wrth golwg360 nad ydyn nhw am wneud sylw am y mater.