John Jones (ar y chwith) ac Alun Roberts
Mae clip o un hanner o’r ddeuawd canu gwlad, John ac Alun, yn rhegi yn fyw ar Radio Cymru nos Sul (Gorffennaf 9) bellach yn cael ei rannu ar y we.

Rhyw ddwyawr i mewn i’w rhaglen rhwng 9 a hanner nos, roedd rhywun i’w glywed yn stryffaglu i geisio diffodd rhyw declyn yn ystod cân, ac yn rhegi wrth wneud hynny.

“Sut dw i’n stopio’r basdad yma rwan?” meddai i’w feic agored, a chân Huw Jones, ‘Paid Digalonni’ yn chwarae.

Mae’r sylw wedi ei ddileu oddi ar y rhaglen sydd i’w chlywed ar adran ‘Gwrando Eto’ y BBC ar y we, ynghyd ag ymddiheuriad ar ddiwedd y gân. Yn hytrach, mae’r gitarydd a’i gyd-gyflwynydd, Alun Roberts, yn mynd yn syth i mewn i gais gan wrandawr.

Ond mae’r clip sydd wedi’i ddileu i’w glywed bellach ar wefan Soundcloud, ac mae’n cael ei rannu hefyd ar Facebook.

“Ymddiheuriadau mawr os wnes i bechu yn erbyn unrhyw un efo’r sylwadau yn gynharach,” meddai’r ymddiheuriad ar y clip gwreiddiol, cyn i Alun Roberts ddweud ei fod yn cael “rhyw broblemau bach efo’r cyfrifiadur”.

Dyma’r clip fel y mae wedi’i rannu ar Soundcloud:

Wrth ymateb i golwg360, mae BBC Cymru yn mynnu mai Alun – ac nid John – wnaeth ymddiheuro yn fyw ar y rhaglen nos Sul: “Fe sylweddolodd Alun ei gamgymeriad yn syth ac fe ymddiheurodd yn fyw ar yr awyr,” meddai llefaydd.