Llun: PA
Doedd yna fawr o newid yn lefelau diweithdra Cymru yn y tri mis hyd at fis Mai yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) mae 4.6% o bobol allan o waith yng Nghymru, sydd yn gwymp bach o 0.2% o gymharu â’r tri mis blaenorol.

Bellach mae 70,000 o bobol rhwng 16 a 64 yn ddi-waith yng Nghymru.

Dros y Deyrnas Unedig oll mae 4.5% yn ddi-waith tra bod 74.9% o’r boblogaeth yn gweithio – o gymharu â Chymru lle mae 72.6% wedi eu cyflogi.

Dywed yr ONS bod cyflogau wedi cynyddu 1.8% ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mai, ond bod chwyddiant wedi codi i 2.9%  ym mis Mai – ei lefel uchaf ers bron i bedair blynedd.

Braidd wedi newid

“Dydy’r darlun cyffredinol ddim wedi newid llawer dros y mis diwethaf,” meddai Uwch-ystadegydd yr ONS, Matt Hughes.

“Ond mae’r ystadegau [Prydeinig] yn nodedig am y gyfradd cyflogaeth isel yn gyffredinol ac i fenywod, ac am y gyfradd segurdod sydd ar ei isaf ers dechrau’r haf 1975.”