Mae’r mudiad Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi “grant brys” i unrhyw fenter i brynu ac adfer papur newydd Y Cymro.

Daeth y newyddion yr wythnos diwethaf fod trafodaethau ar y gweill rhwng sawl grŵp i brynu’r papur newydd cenedlaethol Cymraeg gafodd ei sefydlu yn 1932.

Un o’r grwpiau posib sy’n ystyried rhoi cais i brynu’r papur oddi wrth y perchnogion presennol, Tindle, yw grŵp o ardal Dolgellau – ‘Cyfeillion y Cymro’.

Mae’n debyg y bydd unrhyw berchennog newydd yn gofyn am grant gan Gyngor Llyfrau Cymru, ac mae Dyfodol i’r Iaith am weld “cefnogaeth ddigonol” i unrhyw fenter i adfer y papur.

“Byddwn yn galw ar i’r Llywodraeth roi cefnogaeth ddigonol i’r papur ar ei newydd wedd drwy ganiatáu grant sydd o leiaf yn cyfateb â’r nawdd a roddir i Golwg,” meddai Heini Gruffudd ar ran y mudiad.

‘Cyfraniad allweddol’

Byddwn yn gobeithio y byddai modd rhoi grant brys i ddechrau, i’w ffurfioli maes o law drwy’r Cyngor Llyfrau,” ychwanegodd Heini Gruffudd.

“Y Cymro yw’r unig bapur newydd cenedlaethol cyfrwng Cymraeg, ac mae ei oroesiad a’i ffyniant yn cynrychioli cyfraniad allweddol i’n diwylliant ac i fyd y cyfryngau yng Nghymru,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod eu cefnogaeth i’r diwydiant cyhoeddi “yn cael ei sianelu drwy Gyngor Llyfrau Cymru a nhw sy’n penderfynu pa deitl sy’n cael faint o arian ac ar ba sail.”