Mae BBC Cymru yn dweud y bydd yn lansio ail orsaf radio Gymraeg eleni a fydd yn darlledu rhaglen frecwast bob bore rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

Bydd y sioe frecwast ychwanegol ar gael ar setiau.radio DAB a BBC iPlayer o ganlyniad i fuddsoddiad ychwanegol o £8.5m i’r gorfforaeth yng Nghymru, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Chwefror.

Mae’r fenter, meddai’r BBC, yn dod yn dilyn arbrawf 12 wythnos – Radio Cymru Mwy – ychydig fisoedd yn ôl.

Er na chyhoeddwyd faint o bobol fu’n gwrando ar yr arbrawf hwnnw, roedd yn dangos bod “galw am raglenni amgen”, meddai’r BBC.

“Does dim dwywaith fod hwn yn un o’r datblygiadau mwyaf hanesyddol a phwysig yn natblygiad yr orsaf ers ei sefydlu ym 1977,” meddai’r cyhoeddiad.

“Mae gwrandawyr Radio Cymru gyda’r gwrandawyr radio mwya’ ffyddlon yng Nghymru, ac mae gallu cynnig dewis iddyn nhw ac i wrandawyr newydd yn hynod gyffrous.”

Y bwriad… a’r cwestiynau

Y bwriad yw lansio’r rhaglen foreol rhwng 7 a 10 o’r gloch cyn diwedd y flwyddyn a does dim manylion ar hyn o bryd am gynyddu’r arlwy ar Radio Cymru 2 yn y dyfodol.

Ond fe fydd yn cyd-daro â’r rhaglen newyddion foreol, Post Cyntaf, ynghyd â Rhaglen Aled Hughes, sydd ar yr awyr rhwng 8.30 a 10 bob bore ar Radio Cymru.

I’r rheiny sy’n poeni yn lle y bydd y rhaglen newydd yn cael ei chynhyrchu, mae’n debygol iawn mai yng Nghaerdydd y bydd hynny, gan fod Post Cyntaf a Rhaglen Aled Hughes yn darlledu o Fryn Meirion, Bangor.

Pwy fydd cyflwynydd Radio Cymru 2?

A’r cwestiwn allweddol yw, pwy fydd yn cyflwyno’r arlwy newydd?

Mae golwg360 yn deall fod bosys yr orsaf, mewn cyfarfodydd yr wythnos hon, yn dweud eu bod yn chwilio am “y Chris Evans Cymraeg nesaf” – y cyflwynydd a wnaeth ei farc ar Radio 1, cyn cymryd drosodd gan Terry Wogan ar Radio 2.

Er bod nifer o enwau mawr wedi bod yn y slot brecwast ar Radio Cymru droa y blynyddoedd diwethaf – Dafydd Du, Caryl Parry Jones, Dylan Jones ac Eleri Sion – does yr un ohonyn nhw wedi denu cynulleidfaoedd mawr.

Y cyflwynydd olaf i gyrraedd rhicyn 200,000 o wrandawyr oedd Eifion ‘Jonsi’ Jones, a adawodd yr orsaf a’r BBC yn 2010.

Mae ffigurau gwrando RAJAR y blynyddoedd diwethaf yn dangos mai tua 104,000 sy’n gwrando ar yr orsaf.