Kevin Brennan AS Gorllewin Caerdydd (Llun Trwydded Agored y Llywodraeth)
Mae Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan, wedi cyhuddo Plaid Cymru o gynnal “ymgyrch negyddol” yn yr etholaeth.

Daw’r sylwadau wedi i ymgeisydd Plaid Cymru, Michael Deem, ddweud wrth golwg360 nad oedd yr Aelod Seneddol Llafur, Kevin Brennan, “wedi bod yna” i bobol Gorllewin Caerdydd.

Yn ôl Kevin Brennan mae Michael Deem wedi “ceisio gwyrdroi’r ffeithiau” am ei record pleidleisio ac wedi “niweidio’i blaid ei hun,” trwy ei gyhuddo o osgoi pleidleisiau ar Brexit.

Mae cynrychiolydd seneddol presennol Gorllewin Caerdydd yn mynnu bod aelodau Plaid Cymru hefyd wedi bod yn “absennol” o bleidleisiau ar Brexit, ac mai “atal ein pleidlais oedden ni.”

“Gwleidyddiaeth sinigaidd”

“Mae Plaid yng Ngorllewin Caerdydd mor benderfynol o gynnal ymgyrch negyddol fel eu bod wedi beirniadu eu haelodau eu hunain wrth wneud hynny,” meddai Kevin Brennan wrth golwg360.

“Mae llawer o etholwyr ar draws Gorllewin Caerdydd wedi dweud wrtha’ i mai dyma’r math o wleidyddiaeth sinigaidd sy’n gas ganddynt, wedi’i seilio ar daflu baw a gwyrdroi’r gwirionedd. Dadl dda ac onest ar sail y ffeithiau – dyna mae pobl ei heisiau.”

Mae Kevin Brennan wedi cael ei gymeradwyo gan gyn-Arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Elis-Thomas, ac mae i’w weld ar bamffled yr ymgyrchydd yn galw am bleidleisio’n dactegol dros Lafur er mwyn rhwystro’r Ceidwadwyr.

“Haerllug”

“Y cwbl rydym ni wedi gwneud ydy cyhoeddi record pleidleisio Kevin Brennan,” meddai Aelod Cynulliad Canol De Cymru, Neil McEvoy ar ran y blaid yng Nghaerdydd.

“Ac os nad yw e wedi bod yn pleidleisio nid ein bai ni yw hynna. Mae’n eithaf haerllug i ddweud na ddylwn ei ddal yn atebol am ei record wael.”