Llun: PA
Mae pobol ifanc yn aml yn cael eu cyhuddo o ddifaterwch gwleidyddol ond yn ôl ystadegau diweddar mae pobol ifanc ymysg y rhai sy’n fwyaf tebygol o gofrestru ar gyfer yr etholiad cyffredinol fis nesaf.
Yn ôl ystadegau Llywodraeth y Deyrnas Unedig gwnaeth 700,000 o bobol dan 25 oed gofrestru i bleidleisio ym mis Ebrill – nifer uwch nag unrhyw grŵp oedran arall.
Ydy pobol ifanc wir wedi bod yn heidio i gofrestru ar gyfer yr etholiad ar 8 Mehefin? Ac oes digon o wybodaeth ar gael i bobol ifanc ynglŷn â chofrestru?
Gyda’r terfyn amser ar gyfer cofrestru yn dod i ben ganol nos heno, penderfynodd golwg360 holi rhai o drigolion Llanbedr Pont Steffan i ddarganfod mwy…