Y dyn, Connor, yn cael ei arestio yn Wrecsam ( Llun: Stefan Rousseau/PA Wire)
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl protestio yn erbyn hela llwynogod wrth i Theresa May ymweld â Wrecsam bore ma.

Wrth i’r Prif Weinidog yrru tuag at y ganolfan gymunedol, roedd y dyn wedi gweiddi “achubwch ein bywyd gwyllt, lladdwch May.”

Cafodd y protestiwr ei atal gan yr heddlu ond roedd wedi parhau i weiddi wrth i swyddogion ei symud tuag at gerbydau’r heddlu.

Dywedodd y dyn mai ei enw oedd Connor, a’i fod yn protestio yn erbyn diddymu’r ddeddf hela llwynogod, ffracio a llymder – “y cwbl lot,” meddai.

Dywedodd protestiwr arall nad oedd y dyn “wedi gwneud unrhyw beth o’i le” a bod ymateb yr heddlu yn “ffars.”

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru cafodd y dyn ei arestio am darfu ar yr heddwch ond mae bellach wedi’i ryddhau heb gyhuddiad.

Dywedodd  yr Uwch-arolygydd Nick Evans: “Roedd ein gwaith plismona heddiw yn addas ac yn angenrheidiol. Mae gennym gyfrifoldeb i ganiatáu protestio heddychlon ac i gadw trefn gyhoeddus a sicrhau diogelwch y cyhoedd a chadw’r gyfraith.

“Rwyf yn falch o fedru dweud bod hyn wedi cael ei barchu gan y rhan fwyaf llethol o’r rhai ddaeth yna heddiw a bod ymweliad y Prif Weinidog yno wedi digwydd heb unrhyw drafferth ychwanegol.”

Mae Theresa May wedi bod yn ymweld â Wrecsam heddiw wrth i’r Ceidwadwyr Cymreig lansio eu maniffesto.