Byddai diddymu tollau Pont Hafren yn arwain at “hwb sydyn” i’r economi, yn ôl un sefydliad.

Dywed Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru (CBI Cymru) gall ddiddymu’r tollau “wau economïau de Cymru a de ddwyrain Lloegr yn agosach at ei gilydd.”

Maen nhw hefyd yn dadlau y byddai diddymu’r tollau yn danfon “arwydd cynnar a chlir” o ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i economi Cymru.

Bydd Pont Hafren yn dod dan berchnogaeth gyhoeddus yn 2018 ac mae disgwyl y bydd tollau yn cael eu haneru o ganlyniad i hyn.

“O blaid menter”

“Rhaid amddiffyn enw da y Deyrnas Unedig fel economi sydd o blaid menter,” meddai Cyfarwyddwr CBI Cymru, Ian Price.“Byddai diddymu tollau Pont Hafren yn danfon arwydd cynnar a chlir o ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i economi Cymru.”

“Mi fyddai diddymu’r tollau yn dod gyda chost, ond gall annog hwb sydyn i’r economi a gall wau economïau de Cymru a de ddwyrain Lloegr yn agosach at ei gilydd, gan helpu i rannu ffyniant a gwella cystadleuaeth.”