Bydd pleidleiswyr yn heidio i’r gorsafoedd pleidleisio heddiw wrth i etholiadau lleol gael eu cynnal yng Nghymru.

Mae ymgeiswyr yn cystadlu am 1,161 o seddi ar hyd a lled 22 sir Cymru.

Mewn 92 ward mae’r ymgeiswyr eisoes wedi eu hethol heb wrthwynebiad, tra bod un ward ym Mhowys lle doedd dim un ymgeisydd.

Ochr yn ochr â’r etholiadau cyngor sir mi fydd etholiadau cynghorau cymuned a chynghorau tref yn cael eu cynnal.

Bydd 13 o gynghorau yn cyfri’r pleidleisiau dros nos tra bydd naw yn dechrau cyfri fore ddydd Gwener.

Mae’r gorsafoedd pleidleisio yn agor am 7.00yb ac yn cau am 10.00yh.