Mae Caergybi wedi croesawu mordaith gyntaf y tymor yng Nghymru wrth i’r Astoria gyrraedd heddiw (ddydd Mercher, Mai 3).

Y tymor hwn, bydd porthladdoedd Cymru yn croesawu 37,000 o deithwyr a 15,000 o staff y llongau – cynnydd o 33% yn nifer y mordeithiau o gymharu â llynedd.

Mae’r Astoria yn cludo 580 o deithwyr a 236 o staff ac yn cael ei rhedeg gan cwmni Cruise and Maritime Voyages. Wedi cyrraedd Caergybi, roedd gan y teithwyr ddewis o deithiau yn cynnwys ymweld ag Ynys Mon, Eryri ac arfordir y gogledd orllewin.

Mae’r farchnad mordeithiau yn fusnes mawr i Gymru ac mae Cruise Wales a’i bartneriaid yn gweithio i ddatblygu’r farchnad. Mae nifer cynyddol o ymwelwyr o’r Almaen yn dod i dde-orllewin Cymru trwy fordeithiau sy’n aros yn Aberatwe, Porthladd Aberdaugleddau, Penfro ac Abergwaun.

Abergwaun yn gweld cynnydd

Mae’r nifer o longau sy’n galw yn Abergwaun wedi cynyddu o 5 yn 2015 i 29 yn 2017.

Bydd Abergwaun yn croesawu mordaith gyntaf y tymor pan fydd llong y National Geographic ’Explorer’ – yn galw am y tro cyntaf ar Fai 6. Mae’r fordaith yn ganlyniad ymweliad gan y National Geographic y llynedd i weld beth oedd gan Gymru i’w gynnig fel cyrchfan fordeithiau.

Mae’r farchnad fordeithiau wedi ei nodi yn strategaeth twristiaeth Cymru fel un ffordd o ddatblygu’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru 10% erbyn  2020. Dyma un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf o flwyddyn i flwyddyn.