Mae Tomlinson’s Dairies yn Wrecsam yn creu 70 o swyddi newydd, diolch i fuddsoddiad ar y cyd gwerth £22m gan Cyllid Cymru, Llywodraeth Cymru a HSBC.

Roedd y rownd yn cynnwys £14.5m gan HSBC, £5m gan Lywodraeth Cymru a £2m gan Cyllid Cymru gyda’r gweddill yn dod o gronfeydd y cwmni ei hun.

“Rydyn ni’n falch o allu ymestyn ein gweithrediadau yng ngogledd Cymru a chreu 70 o swyddi newydd ar gyfer yr ardal leol ar ôl y buddsoddiad hwn,” meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Philip Tomlinson.

“Mae hwn yn lle gwych i wneud busnes, ac rydyn ni’n gyffrous ynglyn â’r dyfodol.”

Hanes 

Sefydlwyd Tomlinson’s yn 1983, pan benderfynodd y brodyr Philip a John Tomlinson arallgyfeirio i brosesu llaeth ar eu fferm deuluol yng ngogledd Cymru.

Mae’r busnes wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd ac erbyn hyn dyma’r busnes prosesu llaeth mwyaf yng Nghymru, gydag oddeutu £45m o drosiant y flwyddyn a gan weithredu o uned laeth arbenigol ger Wrecsam.

Yn ddiweddar mae’r cwmni wedi ennill contract gyda’r archfarchnad enfawr Sainsbury’s ac mae nawr yn ehangu ei gyfleusterau storio oer a’r tîm o staff.