Leanne Wood (llun: Plaid Cymru)
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn galw ar i Gymru gael statws tebyg i Norwy – y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, ond o fewn y Farchnad Sengl.

Dywedodd fod cadw Cymru o fewn y Farchnad Sengl yn hanfodol er mwyn diogelu swyddi yng Nghymru, a bod hyn yn golygu bod rhaid derbyn yr egwyddor o hawl pobl i symud.

“Byddai gadael y Farchnad Sengl yn ddinistriol iawn i Gymru ac yn rhoi swyddi mewn perygl,” meddai mewn cyfweliad gydag Andrew Neil ar The Politics Show y bore yma.

“Gallai Cymru ddilyn esiampl Norwy, sydd o fewn y Farchnad Sengl ond y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.”

Dywedodd hefyd y byddai trefniant ar wahân o’r fath i Gymru yn gwbl bosibl.

“Mae’r egwyddor o ryddid pobl i symud am orfod cael ei dderbyn rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth prun bynnag,” meddai. “Felly does dim rheswm pam na ddylai trefniant o’r fath fod yn bosibl ar gyfer Cymru hefyd.”