Yr Wyddfa
Yr olygfa o gopa’r Wyddfa yw’r olygfa orau yn y Deyrnas Unedig, yn ôl arolwg barn.

Fe enillodd yr Wyddfa’r bleidlais ymhlith mwy na 2,500 o bobol i nodi lawnsiad ffôn Samsung Galaxy S8.

Roedd y ddeg olygfa orau yn cynnwys Côr y Cewri yn Wiltshire;Loch Ness yn Ucheldiroedd yr Alban; Bae Porth Iâ yng Nghernyw; a Phalas Westminster yn Llundain.

Dyma oedd y ddeg olygfa orau yn ôl yr arolwg:

1. Eryri – yr olygfa o Lyn Llydaw o gopa’r Wyddfa

2. Mynyddoedd y Three Sisters, Dyffryn Glencoe, yr Alban

3. Côr y Cewri yn Wiltshire

4. Bae Porth Iâ yng Nghernyw

5. Ceunant Cheddar, Gwlad yr Haf

6. Loch Ness – yr olygfa o Dores, yn Ucheldiroedd yr Alban

7. Buttermere, Ardal y Llynnoedd

8. Pont Westminster yr olygfa o Balas Westminster yn Llundain

9. Sarn y Cawr, Swydd Antrim, Gogledd Iwerddon

10. Loch Lomond, Swydd Dunbarton, yr Alban