Mae teulu dynes a fu farw ar yr M4 ddydd Gwener wrth gwrso’i chi wedi dweud eu bod nhw’n “torri’u calonnau”.

Cafodd Patricia Joyce Connors, 66, ei tharo gan fan ar ôl rhedeg i ganol y draffordd yn ystod oriau brig nos Wener.

Roedd ei chi wedi rhedeg i ganol y draffordd ger cyffordd 32 yng ngogledd Caerdydd.

Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth.

Mam, mam-gu a hen fam-gu

Mewn datganiad drwy law Heddlu’r De, dywedodd y teulu: “Mae teulu Patricia Joyce Connors yn torri’u calonnau wrth geisio dod i delerau â damwain drasig sydd wedi cipio mam, mam-gu a hen fam-gu gariadus.”

Dywedodd yr heddlu mewn datganiad fod swyddog yn cefnogi’r teulu.

Maen nhw wedi diolch i’r cyhoedd am eu hamynedd yn ystod y digwyddiad.

Ychwanegodd yr heddlu mewn datganiad: “Hoffai Heddlu’r De siarad ag unrhyw dystion i’r gwrthdrawiad neu unrhyw un a welodd y ci yn rhedeg i ganol y ffordd cyn y gwrthdrawiad.”