Ian Jones
Mae Prif Weithredwr S4C wedi mynnu na fydd symud y pencadlys i Gaerfyrddin yn “costio dim”, er bod y Sianel Gymraeg yn cael benthyg £10 miliwn gan Lywodraeth Prydain at y costau symud.

Roedd Ian Jones yn siarad â golwg360 yn dilyn cyhoeddi gweledigaeth y sianel am y deng mlynedd nesa’, gyda’r darlledwr yn dweud bod angen buddsoddiad sylweddol er mwyn symud tuag at gynnwys digidol.

Ychwanegodd fod “camddealltwriaeth” wedi bod dros y cyhoeddiad fis diwethaf bod S4C wedi cael yr hawl i fenthyg hyd at £10 miliwn gan Lywodraeth Prydain i’w helpu i symud i Ganolfan yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Dywedodd fod yr arian ar gyfer prynu offer wedi’r symud a bod y symud ei hun yn “rhywbeth hollol ar wahân”.

Benthyg £10 miliwn – “ar wahân”

“Be’ ydyn ni wedi bod yn gwneud yw lobïo a gofyn i’r Llywodraeth ers rhyw dair blynedd i roi’r hawl i ni fenthyg arian i fynd i orddrafft er mwyn ariannu’r biliau ry’n ni’n gorfod talu,” meddai Ian Jones.

“Felly, mae’r £10 miliwn yna ar gyfer talu biliau pan maen nhw’n dod i mewn yn y dyfodol. Mae’n rhaid i ni brynu cyfalaf er enghraifft i gyd-leoli gyda’r BBC achos mae’r cyfalaf presennol sydd gennym ni yn dod i ben.

“Mae’n rhaid i ni dalu rhyw £5-£6 miliwn am hynny dros gyfnod. Mae’r £10 miliwn yn rhoi’r cyfle i ni dalu am hwnna’ nawr.

“Cyn 2003, mi oedd gan S4C yr hawl i fenthyg arian ac yr hawl i fynd i mewn i orddrafft, fel pob darlledwr arall.

“Mae pob darlledwr arall wedi gallu parhau i fenthyg arian a mynd i mewn i orddrafft – tynnwyd yr hawl yn 2003 o S4C a dyna i gyd ry’n ni wedi gofyn am gael yr hawl yna yn ôl i ni, fel ein bod ni’n gallu talu ein biliau ar amser.”

“Mae symud i Gaerfyrddin yn rhywbeth hollol ar wahân.”

‘Arbed arian’ i’r sianel

Yn ôl Ian Jones mae sicrwydd na fydd y symud yn “costio dim byd” i’r sianel genedlaethol ac y bydd yn werth chweil gan fod “mwy o waith S4C yn cael ei weld ar draws Cymru”.

“Yn sicr, dyw e ddim yn costio mwy i ni i symud i Gaerfyrddin. Mae cyd-leoli’r ochr ddarlledu gyda’r BBC yn arbed arian i ni. Ry’n ni actually yn arbed miliynau dros yr 20 mlynedd nesa’.”