Tyddewi (Llun: Eglwys Gadeiriol Tyddewi)
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cytuno i roi cefnogaeth swyddogol i gais Tyddewi i fod yn Ddinas Diwylliant y Deyrnas Unedig yn 2021.
Lansiodd Cyngor Sir Penfro a Chyngor Dinas Tyddewi gais ar gyfer Tyddewi a Chantref Pebidiog yn gynharach y mis yma.
Bydd yr Awdurdod yn chwarae rhan ffurfiol fel partner yn y cais, ac yn cyfrannu’n ariannol at yr ymgyrch.
Caiff pecyn ariannol gwerth £15,000 ei fuddsoddi ar gyfer cam cyntaf y broses o wneud cais, a bydd cyfraniad pellach o dros £500,000 pe bai’r cais yn llwyddiannus.
‘Cyfle Pwysig’
“Mae’r cais hwn yn gyfle pwysig i arddangos amrywiaeth diwylliannol Gogledd-orllewin Sir Benfro a’r Parc Cenedlaethol i weddill y Deyrnas Unedig a’r byd,” meddai Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Tegryn Jones.
“Mae gan y Parc Cenedlaethol a gwaith yr Awdurdod ran ganolog i’w chwarae yn llwyddiant y cais, ac ni ellir gorbwysleisio’r manteision cysylltiedig a fyddai’n dod i fusnesau a chymunedau ledled Sir Benfro o ganlyniad i gais llwyddiannus.”
Mae cais Sir Benfro ymhlith un ar ddeg o geisiadau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig – gan gynnwys Abertawe – a bydd enillydd y teitl yn cael ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2017.