Safle Dunbia yn Llanybydder
Mae dau wleidydd sy’n cynrychioli Dwyrain Sir Gaerfyrddin a Dinefwr wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi eu pryderon am ddyfodol swyddi mewn lladd-dy yn Llanybydder.

Mae’r Aelod Cynulliad, Adam Price, a’r Aelod Seneddol, Jonathan Edwards, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn sgil sïon bod y cwmni sydd yn berchen ar y safle, Dunbia, ar fin cael ei brynu gan gwmni arall.

Yn y llythyr mae’r ddau o Blaid Cymru wedi holi pa drafodaethau sydd wedi cael eu cynnal â Dunbia, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i “gymryd camau pro actif i sicrhau na fydd unrhyw werthiant yn cael effaith negyddol ar economi gorllewin Cymru.”

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi derbyn gohebiaeth ynglŷn â’r mater a’u bod am “ymateb yn y man.”

Gwerthiant

Mae adroddiadau yn y wasg yn Iwerddon, sy’n canolbwyntio ar y diwydiant cig a’r diwydiant amaeth, yn honni bod Dunbia yn mynd i gael ei brynu gan gwmni arall o Iwerddon, Dawn Meats.

Y pryder yw y gall cannoedd o swyddi yn adran bacio Llanybydder a ffatri arall yn Felin-fach yn Nyffryn Aeron, gael eu trosglwyddo i safle’r prynwr posib yn Cross Hands.

Yn ôl Cynghorydd lleol Llanybydder, Ieuan Davies,  dylai pobol leol bwyllo oherwydd “does dim wedi ei benderfynu” hyd yma.

Mae Golwg360 wedi cysylltu â Dunbia a Dawn Meats ond nid oedden nhw ddim am wneud sylw ar y mater.