Mewn dadl am ddyfodol papurau newydd lleol ar draws gwledydd Prydain yn y Senedd ddydd Iau, mi fydd Aelod Seneddol Plaid Cymru yn galw’n arbennig am ymchwiliad i’r tirlun newyddiadurol yng Nghymru.

Mi fydd Liz Saville Roberts yn galw am ymchwiliad i ddyfodol y wasg brint Cymreig gydag ystyriaeth benodol i ddyfodol papurau newydd lleol.

“Mae traddodiad cryf cyfryngau lleol Cymru, yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar hyn o bryd o dan fygythiad,” meddai AS Dwyfor Meirionnydd.

‘Rôl hanfodol’

“Fel cyn-ohebydd papur lleol fy hun, rwy’n gwbl ymwybodol o’r rôl hanfodol mae’n ei chwarae wrth gadw pobol yn hysbys am y materion a’r straeon maen nhw’n ymwneud â nhw o ddydd i ddydd…,” meddai Liz Saville Roberts a arferai weithio i’r Carnarfon and Denbigh Herald a’r Holyhead and Anglesey Mail.

“Mae cau nifer o bapurau newydd a’r toriadau difrifol sy’n wynebu eraill yn erydu atebolrwydd democratiaeth leol a’r ymdeimlad o gymuned,” meddai.

‘Asedau cymunedol’

Ychwanegodd Liz Saville Roberts fod yna “ddiffyg lluosogrwydd yn y cyfryngau” yng Nghymru sy’n “bygwth diffygion democrataidd.”

“Dyna pam y byddwn yn defnyddio’r ddadl ddydd Iau yn y Senedd i alw am ymchwiliad i ddyfodol y wasg brint Cymreig,” meddai.

Yn ogystal, mae Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r ymgyrch i ddiogelu papurau newydd lleol fel “asedau cymunedol.”

Wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd perchnogion Y Cymro eu bod yn chwilio am brynwr, neu fe fydd y papur newydd wythnosol yn dod i ben ym mis Mehefin.