Bydd cymunedau gwledig Cymru yn derbyn hwb o chwarter biliwn o bunnau er mwyn ymdopi a’r byd ôl-Brexit.

Daw’r £223 miliwn o’r hyn sy’n weddill o raglen Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru.

Bydd y buddsoddiad yn cynorthwyo meysydd pwysig gan helpu cymunedau gwledig i ymdopi a pharatoi am y cyfnod ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn golygu y gall amrywiaeth eang o raglenni ddechrau gan gynnwys Grant Busnes i Ffermydd, Glastir Uwch a Buddsoddiad mewn Busnesau Bwyd.

Daw £126.3 miliwn o’r cyllid o gyfran yr Undeb Ewropeaidd a bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyfraniad o £96.4 miliwn.

“Dechrau cyfnod o ansicrwydd”

“Bydd yfory’n ddiwrnod arwyddocaol i Gymru ac i’r DU, pan fydd  posibilrwydd  dyfodol y tu allan i’r UE yn dechrau dod yn wir.  Mae hefyd yn nodi’n swyddogol ddechrau cyfnod o ansicrwydd i bawb sy’n gysylltiedig â chymunedau gwledig Cymru,”  dywedodd Ysgrifennydd Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

“Rwy’n falch o gadarnhau, felly, y byddwn yn rhoi gweddill yr arian sy’n weddill o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig, gwerth bron chwater biliwn o bunnau. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd i gymunedau gwledig Cymru sydd wedi elwa’n fawr ar amrywiaeth eang o raglenni o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig.”