Cyflwr ffyrdd (Llun: Adroddiad Cynghrair Diwydiant Ashphalt (AIA))
Mae adroddiad newydd yn rhybuddio fod cyflwr ffyrdd Cymru yn dirywio ac na fyddai rhai ohonyn nhw’n addas i’w defnyddio ymhen tua phum mlynedd.

Mae’r adroddiad blynyddol am gyflwr ffyrdd awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr yn casglu fod un ymhob chwech o’r ffyrdd mewn cyflwr gwael.

Yng Nghymru, byddai’n cymryd naw mlynedd i ddod â holl ffyrdd Cymru yn ôl i safon ddigonol, a hynny ar gost o £591.5 miliwn.

Yn ôl adroddiad y Cynghrair Diwydiant Ashphalt (AIA), mae’r problemau’n deillio o “ddegawdau o dangyllido, rhwydwaith sy’n heneiddio a mwy o draffig ar y ffyrdd.”

Mae’r adroddiad yn amcangyfrif ei bod yn costio £53 ar gyfartaledd yng Nghymru i lenwi pob twll, a bod cyflwr gwael y ffyrdd wedi arwain at £43,500 o gostau iawndal i ddefnyddwyr yng Nghymru.

“Mae ffyrdd lleol yn methu ac mae’n bryd inni ailfeddwl ynglŷn â sut i’w cyllido orau bosib ar gyfer y dyfodol,” meddai cadeirydd yr AIA, Alan Mackenzie.