Mae perchnogion Y Cymro yn chwilio am brynwr, neu fe fydd y papur newydd wythnosol yn dod i ben ym mis Mehefin.

Mewn datganiad yn rhifyn heddiw o’r wythnosolyn, mae cwmni Tindle Newspapers yn dweud ei fod yn fodlon gwerthu am bris ‘nominal’ – is na gwerth masnachol y fenter – er mwyn gwneud yn siwr fod gan y papur ddyfodol.

“Mae’r papur wedi cael cefnogaeth y cwmni am nifer o flynyddoedd,” meddai’r datganiad. “Ond mae’n gyfnod cynyddol heriol i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.

“Gyda chymorth panel o arbenigwyr, sy’n rhannu profiad helaeth a medrusrwydd yn yr iaith Gymraeg a chyhoeddi, mae Tindle yn chwilio am berchennog newydd i symud Y Cymro yn ei flaen.”

Dau o bobol sy’n cael eu cyflogi ym Mhorthmadog i weithio ar Y Cymro, ac mae’r cwmni wedi cadarnhau nad yw’r swyddi hynny yn y fantol wrth iddyn nhw gael cynnig gweithio ar gyhoeddiadau eraill.