Mae criw o fenywod lleol wedi ffurfio parti canu merched ar ôl cael eu hysgogi gan Eisteddfod Genedlaethol y Fenni’r llynedd.

Yn ôl Mererid Lewis Davies, sylfaenydd y parti, mae cael yr Eisteddfod wedi golygu bod “mwy o hyder” gan drigolion yr ardal i gynnal pethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Os oes rhywun yn sôn am waddol Eisteddfod, do mae’r Eisteddfod yn sicr wedi rhoi’r impetus i gynnal mwy o bethau drwy gyfrwng y Gymraeg a bod y pethau hynny’n cael eu derbyn yn y gymdeithas yn y Fenni,” meddai.

“Ry’n ni wrth gwrs ar y ffin gyda Lloegr ond yn sicr mae mwy o hyder gyda ni nawr yn lleol i gynnal pethau drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae hyn yn amlwg wedi dod o’r ffaith fod yr Eisteddfod wedi dod o’r Fenni.”

Fe wnaeth y merched gwrdd neithiwr am y tro cyntaf a bydd eu hymarferion ar nosweithiau Llun gan fod hynny’n fwy addas.

“Mae nifer o wragedd y parti gyda’u gŵyr yn dysgu Cymraeg wedi’r Eisteddfod felly mae pob nos Fawrth allan ohoni achos eu bod nhw’n mynd i gyfarfod dysgu Cymraeg,” Mererid Lewis Davies.

“Rydw i ac athrawes yn Ysgol y Fenni wedi agor adran yr Urdd felly mae adran yr Urdd yn cwrdd ar nos Lun hefyd felly byddwn ni’n mynd o’r adran gyda nifer o rieni yn codi eu plant o’r adran ac wedyn yn dod i’r parti merched.”

“Canu’n Gymraeg”

Mae Mererid Lewis Davies yn gobeithio y bydd tua 20 o aelodau yn y grŵp gan bwysleisio mai “parti bach fydd e”.

Does dim bwriad cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ynys Môn eleni ond mae’r parti yn gobeithio mynd amdani yn Eisteddfod y brifddinas yn 2018.

“Ar ôl Eisteddfod Genedlaethol y Fenni haf llynedd a’r flwyddyn cyn hynny buon ni’n ymarfer ar gyfer côr yr Eisteddfod, oedd nifer o bobol yn dweud bod angen i ni ddechrau côr Cymraeg yn yr ardal,” ychwanegodd Mererid Lewis Davies.

“Felly drwy berswâd unigolion a ffrindiau mae hyn wedi digwydd a dechrau gyda pharti merched. Ry’n ni’n joio canu, byddwn ni’n canu yn y Gymraeg, byddwn ni ddim yn canu mewn ieithoedd eraill. Mae’n rhywbeth i fwynhau yn lleol a chodi arian yn lleol.”