Bydd tua £4.7 miliwn o’r arian yn cefnogi prosiect dan arweiniad Prifysgol Bangor, a fydd yn ymchwilio i effaith newid yn yr hinsawdd ar gynaliadwyedd pysgod a physgod cregyn (Llun: Wikipedia)
Bydd dros £6 miliwn o arian yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau gwarchod bywyd morol a’r diwydiant pysgodfeydd yng Nghymru ac Iwerddon.

Nod y buddsoddiad yw cefnogi ymchwil newid hinsawdd ym Môr Iwerddon, datblygiad technoleg er mwyn lleihau costau ynni ac i helpu busnesau i ddatblygu cynnyrch.

Bydd tua £4.7 miliwn o’r arian yn cefnogi prosiect gwyddor môr Bluefish dan arweiniad Prifysgol Bangor, a fydd yn ymchwilio i effaith newid yn yr hinsawdd ar gynaliadwyedd pysgod a physgod cregyn.

Hefyd bydd £1.5 miliwn yn cael ei roi gan yr UE tuag at brosiect piSCES, sydd yn helpu i leihau costau ynni ar gyfer y diwydiant pysgodfeydd yng Nghymru ac Iwerddon trwy rwydwaith drydan grid newydd.

Rhaglen Cydweithredu

Mae’r ddau brosiect yn cael eu hariannu drwy raglen gydweithredu Iwerddon-Cymru yr UE, sydd yn helpu i gryfhau cysylltiadau economaidd a chydweithio rhwng y ddwy wlad.

“Mae’r prosiectau hyn yn cyfuno arbenigedd o’r ddwy wlad i gefnogi diwydiant yng Nghymru ac Iwerddon sy’n rhannu’r un cyfleoedd, yr un heriau a’r un adnodd ym Môr Iwerddon,” dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford.

“Mae cynlluniau cydweithredol fel hyn yn dangos yn glir pa mor fanteisiol yw sicrhau bod Cymru’n parhau i gael mynediad at raglenni cydweithio tiriogaethol, gan gynnwys rhaglen Iwerddon-Cymru, pan fydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.”