Ffliw adar Llun: PA
Mae Parth Atal Ffliw Adar newydd yn dod i rym heddiw sy’n galw ar bobol sy’n cadw adar i asesu eu mesurau bioddiogelwch eu hunain.

Bydd y parth yn weithredol tan Ebrill 30 gyda disgwyl i bobol un ai gadw eu hadar o dan do, eu cadw ar wahân yn llwyr i adar gwyllt, neu reoli mynediad eu hadar at ardaloedd allanol.

Mae’n dilyn mesurau sydd wedi bod mewn lle ers rhai wythnosau wedi’r achosion o ffliw adar H5N8 mewn ardaloedd o Sir Gaerfyrddin ym mis Ionawr a Swydd Lincoln cyn y Nadolig.

 

‘Cyfrifoldeb ar y ceidwad’

“Bydd y perygl o heintio gan adar gwyllt ddim yn lleihau yn yr wythnosau nesaf,” meddai Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Christianne Glossop.

“Mae’r newidiadau i’r Parth Atal newydd yn rhai cymesur ac yn rhoi’r cyfrifoldeb ar y ceidwad i ddewis yr opsiwn gorau iddyn nhw ar gyfer diogelu eu hadar.

“Fodd bynnag, mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r mesurau ychwanegol i leihau risg.”

Ychwanegodd ei bod yn annog pobol sy’n cadw adar i gofrestru â’r Gofrestr Dofednod i dderbyn diweddariadau ar sut i ddiogelu eu hadar orau.