Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn wynebu cael ei halltudio o Gymru, yn ôl Aelod Seneddol Arfon.

Mae Hywel Williams wedi beirniadu’r Swyddfa Gartref “am ddangos difaterwch creulon” at un o’i etholwyr a ddaeth yma o Sri Lanka yn 2009.

Mae Shiromini Satgunaraja dri mis o gwblhau ei gradd mewn Peirianneg Trydanol ym Mhrifysgol Bangor, lle mae disgwyl iddi gael gradd dosbarth cyntaf.

Daeth i’r Deyrnas Unedig pan oedd yn 12 oed gyda’i mam er mwyn ffoi o ryfel cartref yn Sri Lanka.

Mae Hywel Williams yn dweud bod Shiromini Satgunaraja yn wynebu cael ei halltudio dydd Mawrth nesaf [28 Mawrth] a’i bod yn cael ei chadw ar hyn o bryd yng Nghanolfan Gadw Yarlswood yn Swydd Bedford.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y Swyddfa Gartref.

“Anghyfiawn ac annheg”

“Mae Sri Lanka yn parhau i fod yn le peryglus iawn a tydi Shiromini ddim wedi cael unrhyw gysylltiad gwirioneddol gyda’r wlad ers iddi fod yn blentyn,” meddai Hywel Williams AS.

“Mae ei halltudiaeth ar fin digwydd; nid yn unig yw hyn yn anghyfiawn ac yn annheg, ond bydd yn amddifadu Cymru ac yn wir economi Prydain o’r cyfraniad y bydd yn ei wneud yn ei maes.

“Byddai’n gaffaeliad i’r wlad hon ar adeg pan efallai y byddwn yn wynebu prinder difrifol o arbenigwyr medrus ac addysgedig.

“Gyda dim ond tri mis ar ôl ar ei chwrs academaidd, mae’n ymddangos yn gam gwag iawn i gwtogi ei hastudiaeth ym Mangor, dadwreiddio ei theulu a disgwyl iddi barhau fel yr arfer yn ôl yn Sri Lanka lle, fel y deallaf, nid oes unrhyw gwrs tebyg a fyddai’n galluogi iddi raddio.

“Nid yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr dyngarol a dim synnwyr o gwbl o ran anghenion busnes ein gwlad.”

‘Un o’r myfyrwyr gorau’

Dywedodd Pennaeth Peirianneg Trydanol Prifysgol Bangor, Iestyn Pierce, mai Shiromini Satgunaraja, yw un o’r myfyrwyr gorau yn yr ysgol.

“Dros y blynyddoedd dw i wedi adnabod Shiromini mae wedi profi i fod yn eithriadol o alluog a diwyd, ac wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr i’r Ysgol a’r Brifysgol, gan gynnwys cadeirio cangen leol o Sefydliad y Peirianwyr Trydanol ac Electroneg,” meddai.

“Os caniateir iddi raddio byddai Shiromini yn sicr o fod yn aelod gwerthfawr o’r gweithlu mewn pwnc sydd â phrinder graddedigion ledled y byd. Yn ddi-os, os caniateir i barhau â’i hastudiaethau, gall hi gyfrannu at gymdeithas mewn meysydd fel ynni carbon-isel, cyfathrebu a thechnolegau amgylcheddol.”