Kathryn Bishop, (Llun: Llywodraeth Cymru)
Mae Pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo Kathryn Bishop fel cadeirydd cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru.

Cafodd Kathryn Bishop, sydd wedi arbenigo ym meysydd Technoleg Gwybodaeth ac Adnoddau Dynol, ei hargymell gan Lywodraeth Cymru’r wythnos diwethaf.

Yn dilyn gwrandawiad heddiw, fe wnaeth pob un heblaw am un aelod o Bwyllgor y Cynulliad bleidleisio amdani.

‘Penodiad addas’

“Er nad oedd un aelod yn fodlon cymeradwyo’r penodiad, roedd aelodau eraill y Pwyllgor yn teimlo bod Ms Bishop yn benodiad addas ar gyfer y swydd bwysig hon,” meddai Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

Mae Kathryn Bishop hefyd yn Gymrawd Cyswllt o Ysgol Fusnes Saïd (Prifysgol Rhydychen), yn gyfarwyddwr busnes ymgynghori, a Chyfarwyddwr Anweithredol mewn nifer o sefydliadau’r llywodraeth.

Gwrandawiad

Dyma oedd y tro cyntaf i wrandawiad gael ei gynnal cyn penodiad Gweinidogol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Mae’r gwrandawiadau hyn yn digwydd yn gyson yn San Steffan, a byddwn yn gobeithio y bydd hyn yn arwain y ffordd i Bwyllgorau’r Cynulliad gynnal rhagor o wrandawiadau maes o law,” ychwanegodd Simon Thomas.

Awdurdod Cyllid Cymru

 

Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn dechrau ar ei waith ym mis Ebrill 2018, pan fydd treth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi yn cael eu datganoli i Gymru, ac mae’n dilyn pasio Deddf Rheoli a Chasglu Trethi (Cymru) ym mis Ebrill 2016.

Bydd y corff yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru, sy’n atebol i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threthdalwyr yng Nghymru.