Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu’n ymchwilio yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar yr A55 ger Abergele brynhawn ddoe.

Roedd car BMW yn cael ei gwrso gan yr heddlu cyn y gwrthdrawiad.

Cafodd y gyrrwr ei gludo i’r ysbyty yn Stoke ag anafiadau difrifol, a chafodd y ffordd rhwng Llanelwy a Llansan-Siôr ei chau.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd fod y gwrthdrawiad yn un “prin”.