Mae Syr Cliff Richard wedi llongyfarch prosiect yng Nghymru am ddenu grant o bron i £¼ miliwn o goffrau’r Loteri Genedlaethol.

Mae Golden-Oldies ymysg 13 o brosiectau ar draws Cymru fydd yn rhannu £4,221,120 o arian Loteri, ac mae disgwyl i’r £249,458 gael ei ddefnyddio i gynorthwyo pobol hŷn sydd yn unig.

“Rydym wrth ein boddau â derbyn y grant mawr hwn gan y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru,” meddai Syr Cliff Richard.

Bydd y £4m o arian Loteri yn cynorthwyo nifer o brosiectau gan gynnwys helpu Mardi Gras Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsryw Caerdydd i ariannu prosiect i helpu tenantiaid tai cymdeithasol.

Caiff yr arian ei ddosbarthu fel rhan o’r rhaglen ‘Pawb a’i L’e sydd yn cynnig grantiau rhwng £5,001 ac £1 miliwn ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol.

Y prosiectau llwyddianus:

  • Action for Children, £496,742
  • Mardi Gras Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsryw Caerdydd (Pride Cymru), £234,960
  • RSPB Cymru, £500,000
  • Creating Enterprise C.I.C, £238,045
  • British Lung Foundation, £239,131
  • Deafblind UK, £497, 519
  • Golden Oldies, £249,458
  • Tai Pawb, £249,425
  • Sefydliad The Reader, £440,766
  • Chwaraeon gymunedol Rhaeadr Gwy, £249,651
  • Blaenavon PACT Youth Panel, £235,498
  • Plant Dewi Porth Tywyn, £242,130
  • Menter Gymdeithasol Llangefni, £347,795