Carwyn Jones (llun teledu senedd)
Mae’r Prif Weinidog wedi croesawu’r ffigurau diweddara’ sy’n dangos bod diweithdra yng Nghymru wedi disgyn eto.

Fe gwympodd y cyfanswm o 1,000 yn ystod y chwarter diwetha’ ac, yn ôl Carwyn Jones, mae hynny’n brawf pellach fod Cymru’n gwneud yn well na’r rhan fwya’ o wledydd Prydain.

Yn y chwarter diwetha’, roedd 37,000 o bobol Cymru’n ddi-waith ac ar gael i weithio – 4.4% o’r gweithlu. Dim ond de-orllewin a de-ddwyrain Lloegr sydd â chyfraddau gwell.

Sylwadau Carwyn Jones

“Mae’r farchnad swyddi yng Nghymru wedi parhau i wneud yn well na bron pob rhan arall o’r Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn ddiwetha’,” meddai Carwyn Jones.

“Mae graddfa cyflogaeth yng Nghymru wedi tyfu’n gynt nag yn Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon ac mae diweithdra 0.6 pwynt yn is na lefel y Deyrnas Unedig.”

Fe hawliodd fod 1,200 o swyddi wedi eu creu neu eu hachub y mis yma eisoes oherwydd gweithgarwch y Llywodraeth.

Gostyngiad trwy wledydd Prydain

Mae diweithdra trwy wledydd Prydain yn gyffredinol wedi gostwng hefyd – i lawr i ychydig dan 1.6 miliwn, yr isa’ ers deng mlynedd.

Ond fe fydd un ffigwr yn creu rhagor o ddadlau – rhwng diwedd 2015 a diwedd 2016, fe gododd nifer y bobol dramor sy’n gweithio yn y Deyrnas Unedig o 223,000 i 3.48 miliwn.