Mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad wedi cyhuddo Cymdeithas yr Iaith o fod yn “lleiafrif anoddefgar sy’n gwneud cam mawr â’r Gymraeg”.

Mae Neil Hamilton yn cwrdd â phobol ym mhentref Llangennech, ger Llanelli, heddiw i glywed am bryderon rhai dros newid yr ysgol gynradd leol o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn un cyfrwng Cymraeg.

Cyn mynd, dywedodd wrth golwg360, nad yw yn erbyn yr egwyddor o droi ysgolion dwy ffrwd i ysgolion Cymraeg ond bod y ffordd mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi mynd ati yn “rhy lawdrwm”.

“Dw i’n meddwl mai rhieni dylai benderfynu ar natur yr addysg i’w plant a ddim cynghorwyr a biwrocratiaid y cyngor,” meddai Neil Hamilton.

“Dw i’n meddwl ei fod yn anghywir anywbyddu y nifer sylweddol o bobol sydd am i’w plant gael eu haddysgu mewn ysgol ddwy ffrwd a gorfodi plant allan o’r pentref i gael eu haddysg.”

“Safiad gwrth-Gymraeg”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ei feirniadu am fynd i Langennech heddiw, gan ddweud mewn datganiad fod newid ysgol Llangennech i fod yn ysgol Gymraeg “yn bwysig i’r sir gyfan yn ogystal â Llangennech”. Dim ond addysg Gymraeg, meddai’r mudiad, fydd yn sicrhau bod plant yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg yn y dyfodol.

“Roedd yn rhagweladwy y byddai Neil Hamilton yn achub ar y cyfle i wneud safiad gwrth-Gymraeg fel hyn fyddai’n amddifadu cenhedlaeth arall o blant o’r gallu i fyw a gweithio yn Gymraeg,” meddai’r Gymdeithas wedyn. “Beth sydd i ddisgwyl gan rywun nad yw’n trafferthu byw yn yr etholaeth na’r wlad y mae’n gwasanaethu?”

Ond mae’r Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi taro’n ôl gan ddweud y byddai’r Gymraeg “ar y cyrion” pe bai’r mater yn cael ei adael i’r Gymdeithas.

“Er mor wych yw eu hamcan, maen nhw’n lleiafrif anoddefgar, sydd eisiau gosod eu hewyllys ar fwyafrif anfodlon. Dw i’n meddwl eu bod nhw’n gwneud cam mawr â’r Gymraeg.”

Nid dyma’r ffordd… 

Mae Neil Hamilton yn mynnu mai “nid dyma’r ffordd” o gyrraedd targed Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 – strategaeth y mae’n “hollol gefnogol” iddi.

“Fydd e ddim yn digwydd os bydd y bobol, sy’n rhaid i ni eu darbwyllo i roi addysg Gymraeg i’w plant, yn cael eu gwylltio gan agwedd unbeniaethol Neuadd y Sir,” meddai.

“Hyd yn hyn, rydyn ni wedi llwyddo i ddod â’r rhan fwyaf o rieni di-Gymraeg gyda ni i gefnogi’r  amcan gyffredinol, yn enwedig yng ngorllewin Cymru.

“Dw i’n meddwl bod hi’n siom i beryglu hynny drwy greu rhaniadau o fewn y gymuned, mae’r penderfyniad hwn i weld yn gwneud hynny.

“Dw i jyst yn meddwl bod rhaid delio â’r [broblem] mewn ffordd fwy sensitif na’r ffordd y mae Cyngor Sir Gâr i weld yn gwneud.”

Ychwanegodd y byddai’n cefnogi penderfyniad y Cyngor pe bai ysgol dwy ffrwd arall gerllaw.

“Y broblem yn Llanelli, yw bod yr ysgolion eraill sy’n cael eu cynnig gan y Cyngor i’r sawl sydd ddim am gymryd rhan yn yr antur hwn, naill ai yn llawn yn barod neu maen nhw dau filltir a hanner i ffwrdd neu fwy.

“Rydym yn siarad am blant oed ysgol gynradd fan hyn, nid plant sy’n gallu cael eu gadael ar eu pennau eu hunain i fynd ar y bws a theithio’n annibynnol.”