Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi eu cyhuddo o ddangos rhagfarn yn erbyn menywod gan mai dim ond dynion fydd yn sefyll yn ward Plasnewydd ar gyfer etholiad Cyngor Caerdydd mis Mai.

Mae Llefarydd Cydraddoldeb y blaid, Cadan ap Tomos wedi amddiffyn y penderfyniad gan honni bod yr ymgeiswyr wedi eu “dewis ar sail gallu”. Ond mae’r Aelod Cynulliad Llafur tros Ganol Caerdydd, Jenny Rathbone, wedi herio’r sylw.

Wrth ymateb i actifydd hawliau menywod ar drydar dywedodd Cadan ap Tomos fod “mwy i amrywiaeth na rhyw”.

Yn sgil ei sylwadau mae Jenny Rathbone yn galw ar Cadan ap Tomos i ailystyried ei rôl yn Llefarydd Cydraddoldeb y blaid, ac mae’n galw ar i’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ymddiheuro i bobol Plasnewydd.

Beth yw cydraddoldeb?

“Dylai llefarydd cydraddoldeb sydd ddim yn credu yng nghydraddoldeb rhyw ail ystyried ei ddiffiniad o gydraddoldeb,” meddai Jenny Rathbone.

“Dylai fod ymgeiswyr benywaidd yn sefyll ym mhob ward. Mae dewis menywod yn arwain at gyngor sy’n cynrychioli pobol yn well, ac at bolisïau a gwleidyddiaeth well.”

Ar hyn o bryd, mae Plasnewydd yn cael ei gynrychioli gan dri chynghorydd Llafur ac un cynghorydd o’r Democratiaid Rhyddfrydol. Bydd yr etholiad nesaf yn cael ei gynnal ar Fai 4.

Ymateb y Democratiaid Rhyddfrydol 

Mae’r blaid yn pwysleisio bod dau unigolyn LGBT+ ac un unigolyn o leiafrif ethnig ymysg pedwar ymgeisydd y blaid yn ward Plasnewydd.

Ers 2004 mae pedair menyw o’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn Arglwydd Faer ar Gaerdydd, medden nhw wedyn.

Safbwynt y blaid yw bod Jenny Rathbone wedi ymosod arnyn nhw oherwydd gwnaeth un o gynghorwyr Llafur y ward ymuno â’r Democratiaid Rhyddfrydol ddoe.

Sylwadau “sarhaus”

“Rwyf wedi brwydro trwy gydol fy mywyd yn erbyn daliadau rhagfarnllyd gan gynnwys rhagfarn at fenywod,” meddai Cadan ap Tomos. “Rwy’n gweld hi’n drist bod Jenny Rathbone wedi disgyn i’r lefel hyn.

Dylai bod hi’n gweithio gyda ni ar y materion yma yn hytrach nag ymosod arnom cyn yr etholiadau.

“Dros y blynyddoedd rwyf wedi fy nawddogi gan sylwadau homoffobig ac oedraniaethol, felly fel person hoyw mae cael fy newis i gynrychioli fy nghymuned yn anrhydedd anferth. Mae’r modd y mae Jenny Rathbone yn diystyrru’r rhwystrau rwyf wedi eu goresgyn, yn sarhaus.

“Mae gennym hanes balch o gynrychiolaeth  menywod yng Nghaerdydd. Dim ond menywod fydd yn arwain ein hymgyrch yng Nghyncoed, ac mae gan ein grŵp cyngor ail arweinydd benywaidd yn olynol.

“Mae dau o gynghorwyr Llafur Caerdydd wedi ymddiswyddo oherwydd rhywiaeth a hiliaeth, ac mae pob un o gynghorwyr yr Eglwys Newydd Llafur yn ddynion gwyn. Efallai y dylai Jenny osod trefn ar ei thŷ ei hun cyn cychwyn ymosodiadau di-sail ar eraill.”