Tom Owen, chwith, gyda'i fam Kim Owen, ei dad Martin Owen a'i chwaer Katie. Llun: Heddlu De Cymru
Mae dyn 21 oed, fu’n gweithio i gwmni Western Power, wedi marw yn dilyn digwyddiad yn ardal Llanrhymni ger Caerdydd ddydd Llun.

Cafodd Heddlu’r De a pharafeddygon eu galw i Heol Clevedon am 12.20yp ddoe. Credir bod y dyn wedi cael ei drydanu wrth wneud gwaith cynnal a chadw yn yr ardal.

Cafodd Tom Owen, o Efail Isaf ger Pontypridd, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd lle bu farw.

Mae Heddlu’r De a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi lansio ymchwiliad ar y cyd i geisio darganfod beth arweiniodd at y digwyddiad.

Mewn datganiad dywedodd teulu Tom Owen eu bod wedi eu “tristau’n ofnadwy yn dilyn marwolaeth drasig ein mab. Fe yw ein byd. Roeddem ni’n hynod o falch ohono a gallwn ni ddim dychmygu ein bywyd hebddo.”

Mae ei deulu yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.