Mae arolwg newydd yn dangos fod nifer o ffermwyr ifanc ar draws gwledydd Prydain yn teimlo “rhwystrau difrifol a diangen” rhag mentro i’r sector.

Fe wnaeth arolwg banc NatWest holi 500 o ffermwyr ifanc a phobol sy’n ystyried mentro i’r maes, gan ganfod fod ansicrwydd y farchnad o ganlyniad i Brexit yn un o’r prif resymau pam nad oedd hyder i droi at ffermio.

Roedd y rhesymau eraill yn cynnwys dynameg deuluol cymhleth a diffyg mynediad at gyllid a dulliau newydd o amaethu.

Fe wnaeth yr adroddiad ganfod hefyd fod gan ffermwyr ifanc sgiliau a syniadau newydd i’r sector gan gynnwys defnyddio drones i fonitro cnydau ac arallgyfeirio’r ffermydd i ddenu twristiaeth, gyda busnesau glampio yn profi’n boblogaidd.

‘Cyfyngu’

Mae banc NatWest wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sefydlu pwyllgor cabinet newydd i gefnogi ffermwyr ifanc i fentro i’r maes.

Dywedodd Ian Burrow, Penaeth Amaethyddiaeth NatWest, “mae ffermwyr y mileniwm yn grŵp o bobol sydd â sgiliau technegol a chymhelliad cryf sydd â syniad realistig o ofynion ffermio a’r math o yrfa maen nhw eisiau ar y tir. Fodd bynnag, maen nhw’n cael eu cyfyngu mewn nifer o ffyrdd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig, “rydym yn benderfynol o gael y ddêl orau ar Brexit i bobol Prydain – nid yn unig ein ffermwyr sy’n chwarae rhan hanfodol yn ein gwlad, ond hefyd gyda’r diwydiant bwyd i greu £110 biliwn y flwyddyn i’n heconomi.”