Rhai o'r dysgwyr yn paratoi cardiau Dwynwen ar gwrs Popeth Cymraeg a Choleg Cambria sydd wedi dod ynghyd i gynnig cyrsiau preswyl Cymraeg i Oedolion
Mae Popeth Cymraeg a Choleg Cambria wedi dod ynghyd i gynnig cyrsiau preswyl Cymraeg i Oedolion newydd yn y gogledd-ddwyrain yr haf yma.

Mae sefydlu’r cyrsiau’n rhan o dargedau Popeth Cymraeg, ac fe fydd y cyrsiau wythnos a phenwythnos ar gael ar gyfer pedair lefel o ddysgwyr – mynediad, sylfaen, canolradd ac uwch.

Bydd y cyrsiau’n cael eu cynnal yng Ngholeg Cambria yn Llysfasi.

Popeth Cymraeg

Mae Popeth Cymraeg yn dysgu Cymraeg i Oedolion ers dros chwarter canrif, yr unig gorff yng Nghymru sy’n bodoli dim ond er mwyn dysgu Cymraeg fel ail iaith.

Maen nhw’n arbenigo mewn cyrsiau dwys.

Dywedodd Prif Weithredwr Popeth Cymraeg, Ioan Talfryn wrth Golwg360: “Dan ni wedi trafod hyn efo’r ganolfan genedlaethol ac mi oedan nhw’n reit gefnogol i’r syniad.

“Mae cael dysgwyr ar gyrsiau preswyl yn Llysfasi wedi cael ei gymeradwyo fel rhan o’n targed ni.

“Byddwn ni’n ei ddatblygu fe’n raddol ac mae’n mynd i gymryd ychydig o flynyddoedd i’w adeiladu fe’n llawn.

“Mae’n beth da bod canolfan genedlaethol gyda ni gan y bydd hi’n bosib hysbysebu hwn yn eang iawn.

Manteision

Ychwanegodd: “Dan ni wedi bod yn gyfrifol am gyrsiau bloc ond mae’r rhan fwyaf o bobol wedi bod yn byw yn lleol ac yn teithio i mewn, gydag ambell i berson yn dod ac yn aros mewn gwely a brecwast i ddod i’r cyrsiau.

“Ond gyda’r ddarpariaeth breswyl newydd yma, bydd pawb sy’n dod ar y cwrs yn aros yn Llysfasi.

“Dan ni’n mynd i fod yn cynnal pedair lefel ar yr un pryd. Pan dach chi’n cael dysgwyr o fwy nag un lefel ar yr un cwrs, mae mwy o gyffro ynglŷn â’r holl beth.

“Peth arall dan ni’n teimlo sy’n bwysig yw bod y cynllun yn un fforddiadwy iawn ac mae’n siwtio pocedi’r dysgwyr. Mae arian yn brin gyda phawb y dyddiau hyn.”

Cyrsiau

Mae’r cyrsiau wythnos yn para o fore Llun tan brynhawn Gwener, gyda’r pris o £295 yn cynnwys bwyd, llety, adloniant a theithiau.

Bydd gwersi’n para o 10 o’r gloch tan 5.15 ar ddydd Llun, o 9.30-5.15 o ddydd Mawrth i ddydd Iau, ac o 9.30-3 ar ddydd Gwener.

Bydd y cyrsiau’n cael eu cynnal o Orffennaf 17-21, o Orffennaf 31 i Awst 4 ac o Awst 21-25.