Pencadlys Cyngor Gwynedd (Llun y cyngor)
Mae arweinydd cyngor sir wedi galw ar weddill cyrff cyhoeddus yr ardal i ddilyn eu hesiampl wrth ddefnyddio’r Gymraeg.
Fe fyddai modd cyflawni llawer mwy mewn partneriaeth gyda gweddill y sector cyhoeddus, meddai Dyfed Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd mewn neges ddechrau blwyddyn.
Mae hefyd wedi galw am godi rhagor o dai “addas” yn y sir – er gwaetha’ gwrthwynebiad ymhlith ymgyrchwyr iaith i Gynllun Datblygu Gwynedd a Môn sy’n sôn am ganiatáu mwy na 4,000 o dai yn y sir o fewn y deng mlynedd nesa’.
Cydweithio
“Y gri o Gyngor Gwynedd ydi i weddill y sector cyhoeddus yn y sir ddilyn ein hesiampl gan fentro a gweithredu polisïai i hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob agwedd o waith y sefydliad,” meddai Dyfed Edwards.
Roedd penderfyniad y Cyngor i ddefnyddio’r Gymraeg o’r dechrau wedi “cael dylanwad ar statws y Gymraeg” yn nhrefi a phentrefi’r sir, meddai, gan greu “hyder a disgwyliad o blaid y Gymraeg”.
Fe fyddai’r cyrff cyhoeddus yn cynnwys Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
‘Dirfawr angen am dai’
Mae prinder tai addas i’w rhentu yng Ngwynedd, meddai Dyfed Edwards, gan ddadlau bod cynnig lleoedd i bobol fyw yn rhan o’r ateb i’r iaith.
“Mae dirfawr angen cyflenwad digonol o dai addas ledled Gwynedd yn arbennig yn ein cymunedau ôl-chwarelyddol a phentrefi glan môr,” meddai.
“Ar hyn o bryd, mae dros 2,000 o bobol ar ein rhestr aros am dŷ yng Ngwynedd. Prin 12 o dai cymdeithasol sydd ar gael ar osod ledled Gwynedd gyfan ar unrhyw un adeg.”
Fe fydd y cyngor yn sicrhau mai dim ond pobol leol a gaiff brynu tai newydd mewn cymunedau glan môr ac y bydd Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol yn helpu pobol leol i gael tai a phlotiau adeiladu.