Y neges ar gastell Caernarfon (llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am wybodaeth ar ôl i’r geiriau ‘Magna Carta Article 61’ gael eu paentio ar furiau Castell Caernarfon.

Mae’r neges ddyrys wedi cael ei chwistrellu mewn paent coch ar waelod y rhan o’r muriau sydd gyferbyn â’r Cei Llechi gerllaw Pont yr Aber.

Meddai’r Rhingyll Rhys Gough o Gaernarfon:

“Ryw bryd rhwng hanner nos nos Fawrth y 27ain a thua 9 y bore canlynol, dydd Mercher 28 Rhagfyr, fe wnaeth rhywun baentio graffiti ar waliau’r castell.

“Dw i’n apelio ar y gymuned leol am unrhyw wybodaeth ynghylch y digwyddiad, neu os ydych wedi sylwi ar unrhyw weithgaredd amheus yn yr ardal cyslltwch â’r heddlu trwy ein gwasanaeth sgwrsio dros y we, neu drwy ffonio 101 neu’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi cyfeirnod U194609.”