Leanne Wood - galwad troad y flwyddyn (Llun Plaid Cymru)
Fe fydd angen “deinamig newydd” yn y berthynas rhwng Cymru a Llywodraeth Prydain yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Fel arall, fe fydd Cymru’n dal i ddiodde’, meddai, ac fe allai pobol Cymru droi ar Lywodraeth Prydain am eu cymryd yn ganiataol.

Fe gyhoeddodd ei neges ar drothwy blwyddyn y mae hi’n ei hystyried yn un “allweddol” o ran trafodaethau a phenderfyniadau am ddyfodol Cymru ac fe fydd llawer o’r rheiny’n cael eu gwneud yn San Steffan.

‘Degawdau o dan-fuddsoddi’

Roedd angen perthynas newydd o ran buddsoddi mewn adnoddau sylfaenol yng Nghymru ac mewn datblygu economaidd, meddai Leanne Wood.

“R’yn ni bellach yn gweld canlyniadau degawdau o dan-fuddsoddi a dad-ddiwydiannu bwriadol o dan lywodraethau San Steffan.

“Does dim yn anorfod am gyflwr economaidd Cymru. R’yn ni’n cael ein dal yn ôl gan lywodraeth Geiwadol yn San Steffan sy’n ddifater am ffawd Cymru a gan Lywodraeth Lafur Gymreig sy’n rhy wan i’w rhwystro.”

Ateb Llywodraeth Prydain

Mae llefarydd ar ran Prif Weinidog Prydain wedi ateb trwy fynnu bod Theresa May eisiau economi cryf ym mhob rhan o wledydd Prydain.

“Mae economi Cymru eisoes yn gry’,” meddai, “ond bydd ein strategaeth ddiwydiannol yn ei helpu i barhau i dyfu ac adeiladu ar lefelau uwch nag erioed o gyflogaeth.

“Fe bleidleisiodd pobol Cymru tros adael yr Undeb Ewropeaidd ac, wrth i ni wneud y gwaith o gyflawni hynny, fe fyddwn ni’n ei wneud mewn ffordd sy’n gweithio i Gymru.”