Mae disgwyl i dyrcwn, sbrowts a mins peis hedfan oddi ar y silffoedd heddiw wrth i bobol brynu eu bwyd Nadolig.

Yn ôl Tesco heddiw fydd diwrnod prysura’r flwyddyn iddyn nhw gyda 10 miliwn o gwsmeriaid yn ymweld â’u siopau ar hyd a lled gwledydd Prydain.

Bydd y cwmni yn gwerthu traean o’i holl dyrcwn heddiw – sef 200,000. A bydd 10 miliwn o ‘pigs in blankets’ yn cael eu gwerthu heddiw.

Ar ei brysuraf, bydd Tesco yn gwasanaethu 15,000 o gwsmeriaid y funud.

Rhwng ddoe a heddiw, y disgwyl yw gwerthu 40 miliwn o sbrowts.

Llai o wario yfory

Er hynny mae disgwyl i siopwyr wario llai yfory o gymharu â’r un diwrnod y llynedd, sy’n cael ei alw yn ‘Gwener Gwallgof’ oherwydd bod y siopau bwyd mor brysur.

Yn ôl cwmni cardiau credyd Sainsbury’s bydd pobol yn gwario £726 miliwn ar noswyl Nadolig yfory – swm sylweddol yn is na’r £1.4 biliwn gafodd ei wario’r llynedd.

Hefyd, yn ôl Sainsbury’s, mae’r hyn mae’r siopwr unigol yn ei wario’r wythnos hon yn llai na’r un cyfnod y llynedd – lawr o £272 yn 2015 i £191 eleni.

Gwario biliynau ar Ragfyr 26

Mae disgwyl i bobol wario £3.85 biliwn ar ‘fargeinion’ ar Ddydd San Steffan, gyda £2.95 biliwn yn mynd i goffrau siopau’r stryd fawr a £900 miliwn yn cael ei wario ar y We.