Nathan Gill
Dyw Nathan Gill ddim yn or-hyderus y bydd arweinydd newydd plaid UKIP yn gallu dod ag ef â’i gyd-Aelod Cynulliad, Neil Hamilton, “yn ôl at ei gilydd”.

Wrth siarad â golwg360 heddiw am ethol Paul Nuttall yn arweinydd UKIP, mae’r Aelod Seneddol Ewropeaidd sydd hefyd yn Aelod Cynulliad, yn dweud na fydd neb yn gallu ei orfodi i fod yn ffrindiau gyda Neil Hamilton eto.

“Allwch chi ddim gwneud i bobol hoffi ei gilydd dim ond achos eich bod chi’n gofyn iddyn nhw wneud,” meddai Nathan Gill, “ond dw i’n gwybod ei fod yn mynd i drïo ei orau, mae o wedi dweud hynny, a dw i’n ei gredu.”

Mae Nathan Gill yn dweud ei fod yn hapus mai Paul Nuttall ddaeth i’r brig yn etholiad arweinydd newydd UKIP yr wythnos ddiwetha’ – ac, er nad yw wedi ei gyfarfod ers iddo gael ei ethol, fe fydd hynny’n digwydd yr yn Strasbwrg ytr wythnos nesa’.

Penderfyniad ar ddyblu swyddi

Ar ymweliad i’r Cynulliad ddydd Mawrth yr wythnnos hon, fe dywedodd Paul Nuttall y bydd penderfyniad ar ddyfodol Nathan Gill fel Aelod Seneddol Ewropeaidd ac Aelod Cynulliad yn cael ei wneud cyn y Nadolig.

Mae Nathan Gill wedi cael ei feirniadu yn y gorffennol am barhau yn y ddwy rôl, ac mae wedi colli mwy na dwy ran o dair o bleidleisiau yn y Cynulliad ers cael ei ethol fis Mai.

Does gan Nathan Gill “ddim syniad” pa swydd fydd yn dewis rhoi’r gorau iddi os bydd pwyllgor gweithredol UKIP yn penderfynu bod rhaid iddo ddewis rhwng y ddwy.

Ond dywedodd y bydd yn hapus o weld y mater yn “cael ei roi i’w wely unwaith ac am byth”.

“Mae’r mater ar ddyblu swyddi wedi bod yn llen fwg ar rywbeth gafodd ei godi, nid gan y gwrthbleidiau, nid gan y cyfryngau ond o fewn fy rhengoedd fy hun fel ffordd o dynnu beirniadaeth oddi ar [y cwestiwn] a ddylai pobol fyw yng Nghymru a chynrychioli Cymru,” meddai.

Mae dau Aelod Cynulliad UKIP – Neil Hamilton a Mark Reckless – yn byw yn Lloegr.

Roedd Nathan Gill yn mynnu ei fod yn gwneud ei orau yn y ddwy swydd a’i fod yn fantais i’r Cynulliad ac i Bwyllgor Ymgynghorol Prif Weinidog Cymru ar Brexit.

‘Dim pwdu’ heb wobr

Yng ngwobrau gwleidyddol ITV Cymru nos Fawrth, chafodd yr un wobr eu gwobrwyo i UKIP a’r AS Ceidwadol, David Jones, enillodd ‘Gwleidydd y Flwyddyn’ am ei rôl yn ymgyrch Gadael yn y refferendwm.

“Na, dw i ddim yn pwdu o gwbl. Ni yw UKIP, ry’n ni’n disgwyl bod ar ymylon popeth, rydym ni o hyd wedi bod ac fel yna fydd hi,” meddai Nathan Gill.

“Y Cynulliad Cenedlaethol oedd y ddeddfwrfa fwya’ ddiflas ar y blaned cyn i UKIP gyrraedd, rydym nawr wedi rhoi rhywbeth diddorol [i’r cyfryngau] adrodd arno. Mae’r diddordeb yn y Cynulliad wedi tyfu’n aruthrol o ganlyniad i ni fod yno.

“Roeddwn i’n hollbwysig [yn yr ymgyrch] i gael saith Aelod Cynulliad wedi’u hethol… a nes i chwarae rôl enfawr yn yr ymgyrch Brexit, ar flaen y gad.

“Beth sydd rhaid i ni wneud i gael cydnabyddiaeth?”