David Jones (Llun: Parliament TV)
Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd, David Jones, sydd wedi ennill gwobr Gwleidydd y Flwyddyn am waith yn arwain ymgyrch swyddogol Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae cyn Ysgrifennydd Cymru hefyd wedi’i gydnabod am ei waith ar hyn o bryd yn Weinidog Gwladol yn Adran Brexit yn Llywodraeth Theresa May.

Doedd yna ddim gwobr i neb o Aelodau Cynulliad UKIP er mai eu buddugoliaeth nhw oedd sioc fawr Etholiadau’r Cynulliad.

Yr hen a ŵyr …

Ac yntau yn ei 80au, Paul Flynn, Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Casnewydd, sydd wedi ennill gwobr Aelod Seneddol y Flwyddyn.

Ar ôl chwalfa cabinet Jeremy Corbyn, fe gymerodd ddwy swydd yng nghabinet y blaid Lafur am gyfnod eleni, yn cysgodi Ysgrifennydd Cymru ac Arweinydd Tŷ’r Cyffredin.

Yn y seremoni heno, fe aeth gwobr Aelod Cynulliad y Flwyddyn i Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru a lwyddodd i gipio sedd y Rhondda oddi ar Leighton Andrews yn Etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Gwleidyddion addawol

Dwy o’r blaid Lafur a enillodd y gwobrau am y gwleidyddion mwyaf addawol, sef Jo Stevens, Aelod Seneddol Canol Caerdydd sydd bellach yn cysgodi Ysgrifennydd Cymru a’r Aelod Cynulliad, Hannah Blyth, sy’n cael gwobr yr Aelod Cynulliad mwya’ addawol o fewn misoedd i gael ei hethol.

Cafodd gwobr newydd Ymgyrchydd y Bobol ei chyflwyno i Anna-Louise Bates, sylfaenydd yr elusen rhoi organau Believe ar ôl iddi golli ei gŵr a’i mab y llynedd.

Y panel beirniadu

Mae Gwobrau Gwleidydd Cymreig y Flwyddyn wedi’u rhoi gan ITV Cymru ac mae modd gwylio’r seremoni ar ITV Cymru nos Fawrth, Rhagfyr 13, am 10.40.

Y panel beirniadu oedd sylfaenydd y gwobrau Dr Denis Balsom; Adrian Masters, ITV Cymru; Nick Powell, ITV Cymru; Jo Kiernan, cyn-uwch Ymgynghorydd Arbenigol i Lywodraeth Cymru; Jonathan Evans, Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig; Nerys Evans cyn AC Plaid Cymru a chyfarwyddwr  ymgynghori Deryn, a Meilyr Ceredig, Rheolwr Gyfarwyddwr Four Cymru.