Georgina Symonds (llun: Heddlu Gwent/PA)
Wrth i’r achos yn erbyn miliwnydd o’r Fenni barhau, mae Llys y Goron Casnewydd wedi clywed gan arbenigwr Awtistiaeth sy’n awgrymu y gallai Peter Morgan fod yn dioddef o syndrom Asperger.

Dywedodd yr Athro Simon Baron-Cohen, cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Awtistiaeth, wrth y rheithgor: “does gen i ddim amheuaeth fod ganddo syndrom Asperger”.

Ychwanegodd fod Peter Morgan wedi dweud wrtho fod Georgina Symonds wedi bygwth ei flacmelio drwy ddatgelu lluniau ohono ef gyda merched eraill i’w wraig a’i blant.

Dau ddewis’

Yn ôl yr arbenigwr, roedd Peter Morgan wedi dweud wrtho “roedd rhaid i fi ei stopio hi, roedd rhaid i fi ei dychryn hi”.

Clywodd y llys fod Peter Morgan wedi mynd i fyngalo Georgina Symonds fore Ionawr 12 gyda bocs gemwaith, polisi yswiriant bywyd gwerth £1 miliwn a £400 i’w rhoi iddi.

Dywedodd yr Athro Simon Baron-Cohen ei fod yn credu bod dau ddewis; un ai bod Georgina Symonds yn cymryd yr anrhegion a’r berthynas yn parhau, neu byddai’n rhaid iddi “fynd” o fywyd Peter Morgan.

Cefndir

Mae’r miliwnydd Peter Morgan, 54 oed, o’r Fenni yn gwadu llofruddio Georgina Symonds, 25 oed, ar sail cyfrifoldeb lleihaedig.

Cafodd y ferch ei thagu i farwolaeth mewn byngalo oedd yn eiddo i Peter Morgan yn Llanfarthyn, Casnewydd ar Ionawr 12.

Mae’r llys wedi clywed fod Peter Morgan o Lanelen wedi prynu anrhegion drud ac wedi talu £10,000 y mis i Georgina Symonds am ei chwmni.

Clywodd y llys hefyd ei fod wedi plannu dyfais gwrando cudd yn ei chartref, ac wedi clywed y ferch yn sôn am ei chynlluniau i’w adael.

Mae’r achos yn parhau.